LLeol i Mi
Am gasgliad o luniau o ddirprwyaeth diweddar Ymgyrch Cefnogi Nicaragua Cymru, gweler gwefan BBC Cymru Lleol i Mi. Mae’r stori yn disgrifio gwaith prosiect datblygu cymuned Action Aid yn Kukra Hill (yn cynnwys y cysylltiad rhwng Radio Kukra Hill a Radio Bro Blaenau); a gwaith CIPRES, sydd wedi cael ei fabwysiadu gan y Llywodraeth newydd yn Nicaragua fel ei raglen Dim Tlodi.
Filed under: ymgyrchoedd | 1 Comment
Dirprwyaeth Cymreig i Nicaragua
Mae’r nawfed dirprwyaeth o Ymgyrch Cefnogi Nicaragua Cymru yn gadael ar gyfer Nicaragua yfory. Byddwn ni’n aros gyda ffermwyr o’r co-op CECOCAFEN (gweler yr erthygl yn The Independent yr wythnos hon), aros gyda prosiect cymunedol yn Kukra Hill ar arfordir y caribi, cwrdd ag ymgyrchwyr yn erbyn preifateiddio dwr, a hefyd cael blas o’r sefyllfa gyda’r llywodraeth Sandinista newydd. Os mae unrhyw grwp eisiau cysylltwch a ni ar gyfer siaradwyr, anfon e-bost!
Hefyd, rydym yn help trefnu digwyddiad pan rydym yn dod yn ol o Nicaragua mewn tair wythnos:
Nos Iau, Mawrth 8, 6.30
Canolfan Talysarn, Gwynedd
Gwneud gwahaniaeth – noson i ddathlu diwrnod Rhyngwladol Merched. Cyfraniadau gan ferched o brosiectau cymunedol yn Nyffryn Nantlle a Blaenau Ffestiniog; ffilm ar ffermwragedd coffi masnach deg yn Nicaragua, cyfle i gymdeithasu ac ymlacio gyda phaned a chacen! Trefnwyd gan Sylfaen Cymunedol, Dringo’r Waliau ac Ymgyrch Cefnogi Nicaragua Cymru, yn ystod Pythefnos Masnach Deg.
http://www.equalexchange.com/nicaragua
Filed under: Uncategorized, ymgyrchoedd | Leave a Comment
English language
To visit the English language blog that is in development, please click here
Filed under: English | Leave a Comment
Sylwadau Diweddar